Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

WESP 36
Ymateb gan : Awdurdod Addysg Sir Gâr ac ERW
Response from : Carmarthenshire Local Education Authority

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Mae’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn ddogfen bwerus a phwrpasol.  Mae’r Cynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg hefyd yn ddogfennau pwerus a phwrpasol.  Serch hynny dydy nhw ddim yn cyfrannu'n ddigonol at y deilliannau na'r targedau yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Mae angen i bob CSGA adlewyrchu'r Cynlluniau Strategol yn fwy.

Mae gofynion awdurdodau lleol yn arwain ar weithredu'r CSGA o fewn

anawsterau cyllid digonol ac felly yn colli ffocws o'r Cynlluniau Strategol. Hefyd, dydy goblygiadau’r strategaeth ddim yn cymryd i ystyriaeth amrywiaeth eang o ran addysg Gymraeg yng Nghymru hy does dim un ffordd i siwtio pob awdurdod lleol na chonsortia chwaith.


 

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

 

Mae'r CSGA yn mynd peth ffordd er mwyn sicrhau newidiadau o ran darparu ar gyfer gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg.  Mae'n tynnu sylw rhieni ac awdurdodau ato i ddechrau, ac yn sgil hynny, wedi gorfodi rhai siroedd i weithredu arno.  Serch hynny, dydy'r broses gyfreithlon ddim yn hwyluso cynnydd.

 

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

 

Gwella ar y broses o symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith

 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

 

Mae'r trefniadau ar gyfer pennu targedau yn creu problemau yn y siroedd hynny lle nad oes ysgolion yn darparu naill ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn unig.  Gallaf weld bod targedau, ee, dilyniant yn enwedig, yn rhwyddach i dargedu mewn sefyllfaoedd ble mae teuluoedd yn penderfynu bod y plant yn gychwyn ar daith addysg Gymraeg yn dair ac yn para hyd at ddiwedd cyfnod ysgol.  Beth sydd yn gymhleth yw yn y siroedd hynny ble mae ganddynt amrywiaeth o ddarpariaeth addysg ieithyddol.

Mae’r monitro’n sicrhau bod y Cynlluniau’n gyfoes a phwrpasol ac yn annog ALl i gadw sylw parhaus arnynt.

 

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)

 

Mae angen fwy o gydlynu o ran polisiau.  Mae'r polisi cludiant yn un amlwg ble mae diffyg dealltwriaeth o anghenion y CSGA.

Bydde'n dda o beth i bob adran canu o'r un llyfr emynau er mwyn sicrhau dilyniant ieithyddol llwyddianus.  Rhaid hefyd cofio goblygiadau hir dymor adroddiad Donaldson.

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Mae angen sicrhau amser i gyd gordio'n lleol ac yn genedlaethol.

 

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

 

Mae'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl.  Serch hynny mae yna broblem o ran sicrhau darpariaeth ieithyddol safonol i gynnal pob disgybl yn enwedig yn y sector anghenion arbennig.

 

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

 

Mae angen edrych ar ein system addysg.  Mae'r Cyfnod Sylfaen, os yn gweithredu'n dda, yn creu dysgwyr annibynnol sydd  yn cyd ymffurfio gyda phwysigrwydd ‘Physical Literacy.’  Yna, yn syth yn yr adran Iau, ac hyd yn oed ym mlwyddyn 2, mae'r ffordd o addysgu’n newid ac yn cael eu ffurfioli er mwyn paratoi ein dysgwyr ifanc ar gyfer arholiadau allanol.  Wrth edrych yn wrthrychol, mae'n amlwg nad ydynt yn hwyluso'r daith addysg wrth wrthdaro yn erbyn gofynion o gychwyn y daith addysg hyd at Lefel Uwch.

Hefyd, mae angen strwythur penodol ar gyfer asesiadau er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

 

Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Hwyluso'r broses o symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith.

Mae'r broses o newid categori iaith ysgolion yn hir wyntog a chymhleth ac yn cymryd nifer o oriau i dîm o swyddogion i'w gweithredu.  Un o argymhellion y Strategaeth wrth gwrs yw symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith, pam felly creu proses mor anodd?

Hefyd mae angen cyfle i addysg i ymwreiddio ac felly hepgor nifer o newidiadau cyson.

Yn yr hinsawdd o newidiadau di ri mae athrawon ar draws y byd addysg yn colli hyder ac felly'n colli'r sgiliau creadigol pwerus sydd angen i wella safonau.

Mae angen I Estyn cyd weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol a chonsortia er lles ein disgyblion, staff ac wrth gwrs i sicrhau safonau uwch

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Mae yna bocedi o arfer da iawn ar draws Cymru ble mae safonau o’r Cyfnod Sylfaen -CA4 yn uchel. Serch hynny, dydy hwn ddim yn ddigon cyson ar draws.  Rhaid gweithio tuag at ledu arfer dda ac edrych tu hwnt i Gymru o ran dwyieithrwydd.  Rhaid hybu manteision dwyieithrwydd ar lefel cenedlaethol a chwalu'r 'myths' rhieni o beth mae addysg ddwyieithog yn golygu.

Rhaid cael ein disgyblion i ymfalchïo yn yr iaith a sicrhau bod yr iaith Gymraeg ddim yn aros fel iaith y dosbarth yn unig.